Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 5:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD,ystyria fy nghwynfan;

2. clyw fy nghri am gymorth,fy Mrenin a'm Duw.

3. Arnat ti y gweddïaf, ARGLWYDD;yn y bore fe glywi fy llais.Yn y bore paratoaf ar dy gyfer,ac fe ddisgwyliaf.

4. Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni,ni chaiff y drwg aros gyda thi,

5. ni all y trahaus sefyll o'th flaen.Yr wyt yn casáu'r holl wneuthurwyr drygioni

6. ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd;ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus.

7. Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ,plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.

8. ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion,gwna dy ffordd yn union o'm blaen.

9. Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau,y mae dinistr o'u mewn;bedd agored yw eu llwnc,a'u tafod yn llawn gweniaith.

10. Dwg gosb arnynt, O Dduw,bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodauam iddynt wrthryfela yn dy erbyn.

11. Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,a chanu mewn llawenydd yn wastad;bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.

12. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 5