Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 49:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywch hyn, yr holl bobloedd,gwrandewch, holl drigolion byd,

2. yn wreng a bonedd,yn gyfoethog a thlawd.

3. Llefara fy ngenau ddoethineb,a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.

4. Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb,a datgelaf fy nychymyg â'r delyn.

5. Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd,pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,

6. rhai sy'n ymddiried yn eu goludac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?

7. Yn wir, ni all neb ei waredu ei hunna thalu iawn i Dduw—

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 49