Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 48:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. ond pan welsant, fe'u synnwyd,fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi;

6. daeth dychryn arnynt yno,a gwewyr, fel gwraig yn esgor,

7. fel pan fo gwynt y dwyrainyn dryllio llongau Tarsis.

8. Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsomyn ninas ARGLWYDD y Lluoedd,yn ninas ein Duw nia gynhelir gan Dduw am byth.Sela

9. O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondebyng nghanol dy deml.

10. Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawlyn ymestyn hyd derfynau'r ddaear.Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder;

11. bydded i Fynydd Seion lawenhau.Bydded i drefi Jwda orfoledduoherwydd dy farnedigaethau.

12. Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch,rhifwch ei thyrau,

13. sylwch ar ei magwyrydd,ewch trwy ei chaerau,fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi,

14. “Dyma Dduw!Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd,fe'n harwain yn dragywydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 48