Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 48:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawlyn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd.

2. Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear,yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd,dinas y Brenin Mawr.

3. Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duwwedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa.

4. Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnullac wedi dyfod at ei gilydd;

5. ond pan welsant, fe'u synnwyd,fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi;

6. daeth dychryn arnynt yno,a gwewyr, fel gwraig yn esgor,

7. fel pan fo gwynt y dwyrainyn dryllio llongau Tarsis.

8. Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsomyn ninas ARGLWYDD y Lluoedd,yn ninas ein Duw nia gynhelir gan Dduw am byth.Sela

9. O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondebyng nghanol dy deml.

10. Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawlyn ymestyn hyd derfynau'r ddaear.Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder;

11. bydded i Fynydd Seion lawenhau.Bydded i drefi Jwda orfoledduoherwydd dy farnedigaethau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 48