Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 47:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Curwch ddwylo, yr holl bobloedd;rhowch wrogaeth i Dduw â chaneuon gorfoledd.

2. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy,yn frenin mawr dros yr holl ddaear.

3. Fe ddarostwng bobloedd odanom,a chenhedloedd o dan ein traed.

4. Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni,balchder Jacob, yr hwn a garodd.Sela

5. Esgynnodd Duw gyda bloedd,yr ARGLWYDD gyda sain utgorn.

6. Canwch fawl i Dduw, canwch fawl;canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.

7. Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear;canwch fawl yn gelfydd.

8. Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd,y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.

9. Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnullgyda phobl Duw Abraham;oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear—fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 47