4. Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.
5. Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;syrth pobloedd odanat.
6. Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol,a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7. Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinioag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8. Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9. Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10. Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:anghofia dy bobl dy hun a thÅ· dy dad;
11. yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,oherwydd ef yw dy arglwydd.
12. Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.