Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 42:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Geilw dyfnder ar ddyfnderyn sŵn dy raeadrau;y mae dy fôr a'th donnauwedi llifo trosof.

8. Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,a liw nos y mae ei gân gyda mi,gweddi ar Dduw fy mywyd.

9. Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig,“Pam yr anghofiaist fi?Pam y rhodiaf mewn galar,wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?”

10. Fel pe'n dryllio fy esgyrn,y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio,ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd,“Ple mae dy Dduw?”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 42