Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 42:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog,felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.

2. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw;pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?

3. Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos,pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?”

4. Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn—fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduwyng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 42