Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 41:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd,ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.

4. Dywedais innau, “O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf;iachâ fi, oherwydd pechais yn d'erbyn.”

5. Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf,“Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?”

6. Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol,ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf,ac yn mynd allan i'w daenu ar led.

7. Y mae'r holl rai sy'n fy nghasáu yn sisial â'i gilydd,yn meddwl y gwaethaf amdanaf,

8. ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo;y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto.”

9. Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo,ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd,yn codi ei sawdl yn f'erbyn.

10. O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi,imi gael talu'n ôl iddynt.

11. Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi:na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.

12. Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb,ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.

13. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.Amen ac Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 41