Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder!Pan oeddwn mewn cyfyngder, gwaredaist fi;bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi.

2. Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth,ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd?Sela

3. Deallwch fod yr ARGLWYDD wedi neilltuo'r ffyddlon iddo'i hun;y mae'r ARGLWYDD yn gwrando pan alwaf arno.

4. Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch â phechu;er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw.Sela

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 4