9. Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.
10. Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.
11. Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;yn wir, chwa o wynt yw pawb.Sela
12. “Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD,a rho glust i'm cri;paid â diystyru fy nagrau.Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf,a phererin fel fy holl hynafiaid.
13. Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenyddcyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr.”