Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 39:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?Y mae fy ngobaith ynot ti.

8. Gwared fi o'm holl droseddau,paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.

9. Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.

10. Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.

11. Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;yn wir, chwa o wynt yw pawb.Sela

12. “Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD,a rho glust i'm cri;paid â diystyru fy nagrau.Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf,a phererin fel fy holl hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 39