Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 39:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.

11. Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;yn wir, chwa o wynt yw pawb.Sela

12. “Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD,a rho glust i'm cri;paid â diystyru fy nagrau.Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf,a phererin fel fy holl hynafiaid.

13. Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenyddcyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 39