Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 39:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedais, “Gwyliaf fy ffyrdd,rhag imi bechu â'm tafod;rhof ffrwyn ar fy ngenau,pan fo'r drygionus yn f'ymyl.”

2. Bûm yn fud a distaw,cedwais yn dawel, ond i ddim diben;gwaethygodd fy mhoen,

3. llosgodd fy nghalon o'm mewn;wrth imi fyfyrio, cyneuodd tâna thorrais allan i ddweud,

4. “ARGLWYDD, pâr imi wybod fy niwedd,a beth yw nifer fy nyddiau;dangos imi mor feidrol ydwyf.

5. Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd,ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg;yn wir, chwa o wynt yw pob un byw,Sela

6. “ac y mae'n mynd a dod fel cysgod;yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra,ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.

7. “Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?Y mae fy ngobaith ynot ti.

8. Gwared fi o'm holl droseddau,paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.

9. Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 39