Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 38:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd,nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod.

4. Aeth fy nghamweddau dros fy mhen,y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal.

5. Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawnioherwydd fy ffolineb.

6. Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr,ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd.

7. Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn,ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8. Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr,ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon.

9. O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti,ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt.

10. Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu,a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd.

11. Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla,ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw.

12. Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau,a'r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistrac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd.

13. Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed,ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 38