Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 38:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid,ac na chosba fi yn dy ddig.

2. Suddodd dy saethau ynof,y mae dy law yn drwm arnaf.

3. Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd,nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod.

4. Aeth fy nghamweddau dros fy mhen,y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal.

5. Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawnioherwydd fy ffolineb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 38