Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 36:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Llwydda i'w dwyllo ei hunna ellir canfod ei ddrygioni i'w gasáu.

3. Niwed a thwyll yw ei holl eiriau;peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.

4. Cynllunia ddrygioni yn ei wely;y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir,ac nid yw'n gwrthod y drwg.

5. Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd,a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;

6. y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchela'th farnau fel y dyfnder mawr;cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.

7. Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw!Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.

8. Fe'u digonir â llawnder dy dŷ,a diodi hwy o afon dy gysuron;

9. oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd,ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.

10. Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnaboda'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.

11. Na fydded i'r troed balch fy sathru,nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.

12. Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo,wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 36