1. Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon;nid oes ofn Duw ar ei gyfyl.
2. Llwydda i'w dwyllo ei hunna ellir canfod ei ddrygioni i'w gasáu.
3. Niwed a thwyll yw ei holl eiriau;peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.
4. Cynllunia ddrygioni yn ei wely;y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir,ac nid yw'n gwrthod y drwg.
5. Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd,a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;
6. y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchela'th farnau fel y dyfnder mawr;cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.
7. Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw!Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.
8. Fe'u digonir â llawnder dy dŷ,a diodi hwy o afon dy gysuron;
9. oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd,ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.