Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 35:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. fel pe dros gyfaill neu frawd imi;yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam,wedi fy narostwng ac mewn galar.

15. Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawenac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn—poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabodyn fy enllibio heb arbed.

16. Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar,ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf.

17. O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych?Gwared fi rhag eu dinistr,a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.

18. Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr,a'th foliannu gerbron tyrfa gref.

19. Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos,nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid.

20. Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch;ond yn erbyn rhai tawel y wlady maent yn cynllwyn dichellion.

21. Y maent yn agor eu cegau yn f'erbynac yn dweud, “Aha, aha,yr ydym wedi gweld â'n llygaid!”

22. Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid â thewi;fy Arglwydd, paid â phellhau oddi wrthyf.

23. Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi,i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd.

24. Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw,ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 35