Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 34:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywedac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.

7. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,ac y mae'n eu gwaredu.

8. Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.

9. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

10. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

11. Dewch, blant, gwrandewch arnaf,dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.

12. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywydac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?

13. Cadw dy dafod rhag drygionia'th wefusau rhag llefaru celwydd.

14. Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda,ceisia heddwch a'i ddilyn.

15. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn,a'i glustiau'n agored i'w cri.

16. Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg,i ddileu eu coffa o'r ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 34