5. Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi,ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.
6. Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywedac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.
7. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,ac y mae'n eu gwaredu.
8. Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.
9. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.
10. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.
11. Dewch, blant, gwrandewch arnaf,dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.
12. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywydac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?