Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 34:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn,a'i glustiau'n agored i'w cri.

16. Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg,i ddileu eu coffa o'r ddaear.

17. Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDDa'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.

18. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galonac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.

19. Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.

20. Ceidw ei holl esgyrn,ac ni thorrir yr un ohonynt.

21. Y mae adfyd yn lladd y drygionus,a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.

22. Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision,ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 34