12. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywydac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?
13. Cadw dy dafod rhag drygionia'th wefusau rhag llefaru celwydd.
14. Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda,ceisia heddwch a'i ddilyn.
15. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn,a'i glustiau'n agored i'w cri.
16. Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg,i ddileu eu coffa o'r ddaear.
17. Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDDa'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.
18. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galonac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
19. Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
20. Ceidw ei holl esgyrn,ac ni thorrir yr un ohonynt.
21. Y mae adfyd yn lladd y drygionus,a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.