Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 34:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser;bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.

2. Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf;bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.

3. Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi,a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.

4. Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fia'm gwaredu o'm holl ofnau.

5. Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi,ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.

6. Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywedac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.

7. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,ac y mae'n eu gwaredu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 34