4. Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5. Y mae'n caru cyfiawnder a barn;y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6. Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7. Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8. Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.
9. Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu;gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
10. Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim,a difetha gynlluniau pobloedd.
11. Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
12. Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.
13. Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,ac yn gweld pawb oll;
14. o'r lle y triga y mae'n gwylioholl drigolion y ddaear.
15. Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt,y mae'n deall popeth a wnânt.
16. Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin,ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr.
17. Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth;er ei holl gryfder ni all roi ymwared.
18. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna,ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,
19. i'w gwaredu rhag marwolaetha'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.
20. Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD;ef yw ein cymorth a'n tarian.