Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 32:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd,ac y cuddiwyd ei bechod.

2. Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDDyn cyfrif ei fai yn ei erbyn,ac nad oes dichell yn ei ysbryd.

3. Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod,a minnau'n cwyno ar hyd y dydd.

4. Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos;sychwyd fy nerth fel gan wres haf.Sela

5. Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt,a pheidio â chuddio fy nrygioni;dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”;a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod.Sela

6. Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat tiyn nydd cyfyngder,a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr,ni fyddant yn cyrraedd ato ef.

7. Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder;amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth.Sela

8. Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri;fe gadwaf fy ngolwg arnat.

9. Paid â bod fel march neu ful direswmy mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dônt atat.

10. Daw poenau lawer i'r drygionus;ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD,bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 32