9. Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae fy llygaid yn pylu gan ofid,fy enaid a'm corff hefyd;
10. y mae fy mywyd yn darfod gan dristwcha'm blynyddoedd gan gwynfan;fe sigir fy nerth gan drallod,ac y mae fy esgyrn yn darfod.
11. I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,i'm cymdogion yn watwar,ac i'm cyfeillion yn arswyd;y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
12. Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;yr wyf fel llestr wedi torri.
13. Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,y mae dychryn ar bob llaw;pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyny maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.
14. Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”
15. Y mae fy amserau yn dy law di;gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.
16. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;achub fi yn dy ffyddlondeb.