Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 31:8-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn,ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.

9. Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae fy llygaid yn pylu gan ofid,fy enaid a'm corff hefyd;

10. y mae fy mywyd yn darfod gan dristwcha'm blynyddoedd gan gwynfan;fe sigir fy nerth gan drallod,ac y mae fy esgyrn yn darfod.

11. I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,i'm cymdogion yn watwar,ac i'm cyfeillion yn arswyd;y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.

12. Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;yr wyf fel llestr wedi torri.

13. Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,y mae dychryn ar bob llaw;pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyny maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.

14. Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”

15. Y mae fy amserau yn dy law di;gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.

16. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;achub fi yn dy ffyddlondeb.

17. ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat;doed cywilydd ar y drygionus,rhodder taw arnynt yn Sheol.

18. Trawer yn fud y gwefusau celwyddog,sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawnmewn balchder a sarhad.

19. Mor helaeth yw dy ddaionisydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni,ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot,a hynny yng ngŵydd pawb!

20. Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldebrhag y rhai sy'n cynllwyn;fe'u cedwi dan dy gysgodrhag ymryson tafodau.

21. Bendigedig yw'r ARGLWYDDa ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol atafyn nydd cyfyngder.

22. Yn fy nychryn fe ddywedais,“Torrwyd fi allan o'th olwg.”Ond clywaist lef fy ngweddipan waeddais arnat am gymorth.

23. Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid.Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon,ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.

24. Byddwch gryf a gwrol eich calon,yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 31