Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 31:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches,na fydded cywilydd arnaf byth;achub fi yn dy gyfiawnder,

2. tro dy glust ataf,a brysia i'm gwaredu;bydd i mi'n graig noddfa,yn amddiffynfa i'm cadw.

3. Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi;er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.

4. Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer,oherwydd ti yw fy noddfa.

5. Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di;gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.

6. Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag,ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 31