Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 31:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches,na fydded cywilydd arnaf byth;achub fi yn dy gyfiawnder,

2. tro dy glust ataf,a brysia i'm gwaredu;bydd i mi'n graig noddfa,yn amddiffynfa i'm cadw.

3. Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi;er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.

4. Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer,oherwydd ti yw fy noddfa.

5. Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di;gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.

6. Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag,ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.

7. Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb,oherwydd iti edrych ar fy adfyda rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.

8. Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn,ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.

9. Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;y mae fy llygaid yn pylu gan ofid,fy enaid a'm corff hefyd;

10. y mae fy mywyd yn darfod gan dristwcha'm blynyddoedd gan gwynfan;fe sigir fy nerth gan drallod,ac y mae fy esgyrn yn darfod.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 31