2. O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iacháu.
3. O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol,a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
4. Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid,a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd.
5. Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes;os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
6. Yn fy hawddfyd fe ddywedwn,“Ni'm symudir byth.”
7. Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn,ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi.
8. Gelwais arnat ti, ARGLWYDD,ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd:
9. “Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll?A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd?
10. Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf; ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.”