Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 27:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dywedodd fy nghalon amdanat,“Ceisia ei wyneb”;am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.

9. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,na throi ymaith dy was mewn dicter,oherwydd buost yn gymorth i mi;paid â'm gwrthod na'm gadael,O Dduw, fy Ngwaredwr.

10. Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.

11. Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,arwain fi ar hyd llwybr union,oherwydd fy ngwrthwynebwyr.

12. Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion,oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddogsy'n bygwth trais.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 27