Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 27:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Pan fydd rhai drwg yn cau amdanafi'm hysu i'r byw,hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,fydd yn baglu ac yn syrthio.

3. Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,nid ofnai fy nghalon;pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,eto, fe fyddwn yn hyderus.

4. Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,dyma'r wyf yn ei geisio:cael byw yn nhÅ·'r ARGLWYDDholl ddyddiau fy mywyd,i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDDac i ymofyn yn ei deml.

5. Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd,a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.

6. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhengoruwch fy ngelynion o'm hamgylch;ac offrymaf finnau yn ei demlaberthau llawn gorfoledd;canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.

7. Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.

8. Dywedodd fy nghalon amdanat,“Ceisia ei wyneb”;am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.

9. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,na throi ymaith dy was mewn dicter,oherwydd buost yn gymorth i mi;paid â'm gwrthod na'm gadael,O Dduw, fy Ngwaredwr.

10. Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.

11. Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,arwain fi ar hyd llwybr union,oherwydd fy ngwrthwynebwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 27