Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 27:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,rhag pwy yr ofnaf?Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd,rhag pwy y dychrynaf?

2. Pan fydd rhai drwg yn cau amdanafi'm hysu i'r byw,hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,fydd yn baglu ac yn syrthio.

3. Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,nid ofnai fy nghalon;pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,eto, fe fyddwn yn hyderus.

4. Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,dyma'r wyf yn ei geisio:cael byw yn nhÅ·'r ARGLWYDDholl ddyddiau fy mywyd,i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDDac i ymofyn yn ei deml.

5. Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd,a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.

6. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhengoruwch fy ngelynion o'm hamgylch;ac offrymaf finnau yn ei demlaberthau llawn gorfoledd;canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.

7. Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.

8. Dywedodd fy nghalon amdanat,“Ceisia ei wyneb”;am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.

9. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,na throi ymaith dy was mewn dicter,oherwydd buost yn gymorth i mi;paid â'm gwrthod na'm gadael,O Dduw, fy Ngwaredwr.

10. Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.

11. Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,arwain fi ar hyd llwybr union,oherwydd fy ngwrthwynebwyr.

12. Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion,oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddogsy'n bygwth trais.

13. Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDDyn nhir y rhai byw.

14. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD,bydd gryf a gwrol dy galona disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 27