Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 25:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti,ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.

4. Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,hyffordda fi yn dy lwybrau.

5. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.

6. O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,oherwydd y maent erioed.

7. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.

8. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.

9. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.

10. Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirioneddi'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.

11. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.

12. Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 25