Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 25:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDDa hefyd ei gyfamod i'w dysgu.

15. Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.

16. Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf,oherwydd unig ac anghenus wyf fi.

17. Esmwythâ gyfyngder fy nghalon,a dwg fi allan o'm hadfyd.

18. Edrych ar fy nhrueni a'm gofid,a maddau fy holl bechodau.

19. Gwêl mor niferus yw fy ngelynionac fel y maent yn fy nghasáu â chas perffaith.

20. Cadw fi a gwared fi,na ddoed cywilydd arnaf,oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu.

21. Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu,oherwydd gobeithiais ynot ti.

22. O Dduw, gwareda Israelo'i holl gyfyngderau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 25