Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 23:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.

2. Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,

3. ac y mae ef yn fy adfywio.Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnderer mwyn ei enw.

4. Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du,nid ofnaf unrhyw niwed,oherwydd yr wyt ti gyda mi,a'th wialen a'th ffonyn fy nghysuro.

5. Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaenyng ngŵydd fy ngelynion;yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew;y mae fy nghwpan yn llawn.

6. Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilynbob dydd o'm bywyd,a byddaf yn byw yn nhŷ'r ARGLWYDDweddill fy nyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 23