Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 22:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Y mae cŵn o'm hamgylch,haid o ddihirod yn cau amdanaf;y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.

17. Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn,ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.

18. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.

19. Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw;O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.

20. Gwared fi rhag y cleddyf,a'm hunig fywyd o afael y cŵn.

21. Achub fi o safn y llew,a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.

22. Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod,a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:

23. “Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD;rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob;ofnwch ef, holl dylwyth Israel.

24. Oherwydd ni ddirmygodd na diystyrugorthrwm y gorthrymedig;ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho,ond gwrando arno pan lefodd.”

25. Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr,a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.

26. Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon,a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli.Bydded i'w calonnau fyw byth!

27. Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofioac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD,a holl dylwythau'r cenhedloeddyn ymgrymu o'i flaen.

28. Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth,ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.

29. Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu iddo ef,a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen?Ond byddaf fi fyw iddo ef,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 22