Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 22:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth,ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.

11. Paid â phellhau oddi wrthyf,oherwydd y mae fy argyfwng yn agosac nid oes neb i'm cynorthwyo.

12. Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;

13. y maent yn agor eu safn amdanaffel llew yn rheibio a rhuo.

14. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,a'm holl esgyrn yn ymddatod;y mae fy nghalon fel cwyr,ac yn toddi o'm mewn;

15. y mae fy ngheg yn sych fel cragena'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau;yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.

16. Y mae cŵn o'm hamgylch,haid o ddihirod yn cau amdanaf;y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.

17. Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn,ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.

18. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.

19. Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw;O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.

20. Gwared fi rhag y cleddyf,a'm hunig fywyd o afael y cŵn.

21. Achub fi o safn y llew,a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 22