1. Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael,ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan?
2. O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb,a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.
3. Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orsedduyn foliant i Israel.
4. Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried,yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
5. Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
6. Pryfyn wyf fi ac nid dyn,gwawd a dirmyg i bobl.
7. Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:
8. “Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub!Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”
9. Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth,a'm rhoi ar fronnau fy mam;