Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 21:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Caiff dy law afael ar dy holl elynion,a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gasáu.

9. Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi;bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid,a'r tân yn eu hysu.

10. Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear,a'u plant o blith y ddynolryw.

11. Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn,ac yn cynllunio niwed heb lwyddo;

12. oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi,ac yn anelu at eu hwynebau â'th fwa.

13. Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth!Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder!

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 21