1. O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth;mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth!
2. Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon,ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau.Sela
3. Daethost i'w gyfarfod â bendithion daionus,a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.
4. Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo—hir ddyddiau byth bythoedd.
5. Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth;yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,
6. yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros bythac yn ei lawenhau â gorfoledd dy bresenoldeb.
7. Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD,ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.