Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 2:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. “Gadewch inni ddryllio eu rhwymau,a thaflu ymaith eu rheffynnau.”

4. Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd;y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar.

5. Yna fe lefara wrthynt yn ei lida'u dychryn yn ei ddicter:

6. “Yr wyf fi wedi gosod fy mreninar Seion, fy mynydd sanctaidd.”

7. Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD.Dywedodd wrthyf, “Fy mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw;

8. gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth,ac eithafoedd daear yn eiddo iti;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 2