Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 19:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaeara'u lleferydd hyd eithafoedd byd.Ynddynt gosododd babell i'r haul,

5. sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.

6. O eithaf y nefoedd y mae'n codi,a'i gylch hyd yr eithaf arall;ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.

7. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,yn adfywio'r enaid;y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,yn gwneud y syml yn ddoeth;

8. y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,yn llawenhau'r galon;y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,yn goleuo'r llygaid;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 19