Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 19:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaeara'u lleferydd hyd eithafoedd byd.Ynddynt gosododd babell i'r haul,

5. sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.

6. O eithaf y nefoedd y mae'n codi,a'i gylch hyd yr eithaf arall;ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.

7. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,yn adfywio'r enaid;y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,yn gwneud y syml yn ddoeth;

8. y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,yn llawenhau'r galon;y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,yn goleuo'r llygaid;

9. y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân,yn para am byth;y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir,yn gyfiawn bob un.

10. Mwy dymunol ydynt nag aur,na llawer o aur coeth,a melysach na mêl,ac na diferion diliau mêl.

11. Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi,ac o'u cadw y mae gwobr fawr.

12. Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau?Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.

13. Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar,rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf.Yna byddaf yn ddifeius,ac yn ddieuog o bechod mawr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 19