1. Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.
2. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd,a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.
3. Nid oes iaith na geiriau ganddynt,ni chlywir eu llais;
4. eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaeara'u lleferydd hyd eithafoedd byd.Ynddynt gosododd babell i'r haul,
5. sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.
6. O eithaf y nefoedd y mae'n codi,a'i gylch hyd yr eithaf arall;ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,yn adfywio'r enaid;y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,yn gwneud y syml yn ddoeth;