Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 19:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.

2. Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd,a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.

3. Nid oes iaith na geiriau ganddynt,ni chlywir eu llais;

4. eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaeara'u lleferydd hyd eithafoedd byd.Ynddynt gosododd babell i'r haul,

5. sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 19