40. Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.
41. Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42. Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt,a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43. Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44. Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.
45. Y mae estroniaid yn gwangalonni,ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46. Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig;dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47. y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,ac yn darostwng pobloedd odanaf,
48. sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
49. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,a chanaf fawl i'th enw.
50. Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth,ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,i Ddafydd ac i'w had am byth.