Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 18:31-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?A phwy sydd graig ond ein Duw ni,

32. y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth,ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?

33. Gwna fy nhraed fel rhai ewig,a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

34. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.

35. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm cynnal â'th ddeheulaw,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

36. Rhoist imi le llydan i'm camau,ac ni lithrodd fy nhraed.

37. Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal;ni ddychwelaf nes eu difetha.

38. Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.

39. Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,a darostwng fy ngelynion odanaf.

40. Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.

41. Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.

42. Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt,a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.

43. Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.

44. Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 18