Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 18:21-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

22. yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

23. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.

24. Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.

25. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r difeius,

26. ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.

27. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.

28. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

29. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

30. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

31. Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?A phwy sydd graig ond ein Duw ni,

32. y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth,ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?

33. Gwna fy nhraed fel rhai ewig,a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

34. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.

35. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm cynnal â'th ddeheulaw,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

36. Rhoist imi le llydan i'm camau,ac ni lithrodd fy nhraed.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 18